|
|
ü Dal i fynd drwy gerdded, loncian neu redeg o amgylch y trac heb stopio
ü Y Cynllun yn cychwyn gyda disgyblion Blwyddyn 2 ac yn dal i fynd hyd at flwyddyn 6
ü Targedau penodol i blant gyda nifer o bellteroedd gwahanol – felly mi fydd rhaid ‘dal i fynd’ i gyrraedd y gwahanol bellteroedd. h.y. Cychwyn gyda tharged o 10km hyd at 1000km. CLWB ‘DAL I FYND’
Y Trac Mae hyd y trac yn dibynnu ar faint buarth/iard yr ysgol. Yn achos Ysgol Y Gorlan fe ddefnyddiwyd pob twll a chornel o’r buarth er mwyn sicrhau trac 300m. Mae’r trac wedi ei farcio mewn gwahanol liwiau, a bydd marciau yn dangos pellteroedd o 20m, 50m, 100m, 150m, 200m a.y.y.b. Rheolaeth/Gweinyddiaeth Bydd y cynllun yn cael ei fonitro gan Gydlynydd PESS â Swyddog Campau’r Ddraig yr awdurdod. Y bwriad yw bod y swyddogion yn ymweld ag ysgolion i sicrhau cefnogaeth, a bod y cynllun yn cael ei redeg yn gyson ac yn gywir. Alun Jones ( Cydlynydd Pobl Ifanc Egniol Gwynedd )
|